Min side Kundeservice Gavekort – en perfekt gave Registrer deg

Ti a dy Gorff

«Ydach chi erioed wedi stopio i feddwl pa mor anhygoel ydi’r corff dynol? Mae o fel gorsaf bŵer, cyfrifiadur, peiriant a ffactori mewn un, ac yn gweithio’n hynod o effeithiol y rhan fwyaf o’r amser. A phan mae pethau’n mynd o’i le, mae ganddo hyd yn oed y gallu i drwsio ei hun! Waw. Cyn i’r rhieni neu’r athrawon gwyddoniaeth ddechrau cwyno nad yw cynnwys llyfr gan gomedïwr yn ddigon ‘gwyddonol,’ efallai y bydd yn syndod i chi gael gwybod fod yr awdur, Adam Kay, wedi bod yn ddoctor go iawn. Mi allwch chi ymddiried felly, ei fod o’n gwybod am be mae o’n sôn. Tydi hwn ddim fatha darllen yr hen werslyfrau llychlyd yn yr ysgol, achos mae steil y llyfr yn ysgafn a doniol. Er y dôn hwyliog, mae’n adnodd hynod o gynhwysfawr ac addysgiadol. Ar yr olwg gyntaf, edrycha fel llyfr swmpus dros ben, ond mae’r cynnwys yn hawdd i’w ddarllen. Mae lluniau cartŵn Henry Paker yn ychwanegu at yr hwyl ac yn torri’r testun yn ddarnau byrrach sy’n haws eu darllen. Wrth ein tywys o amgylch y corff dynol yn ei holl ogoniant, mae’r awdur yn drylwyr tu hwnt, gan holi nifer o arbenigwyr ar hyd y ffordd. Cawn ymweld â nifer o wahanol rannau o’r corff, gan gynnwys y prif organau, yr esgyrn, y cyhyrau a’r croen – gan enwi dim ond rhai. Mi wnes i wir fwynhau’r darnau sy’n trafod y system dreulio a thaith y bwyd holl ffordd o’r geg, nes iddo ddod allan o’r pen arall yn y rectwm (ia, dwi’n dilyn esiampl y llyfr ac yn defnyddio’r termau gwyddonol cywir). Nid pob llyfr sy’n gallu brolio’r ffaith fod ganddo ddarn cyfan i drafod pwps (neu ysgarthion, a bod yn hollol gywir)! Dwi’n siŵr y bydd sawl un yn mwynhau’r darn yma. Mae’n werth nodi, fel unrhyw lyfr gwerth ei halen sy’n trafod y corff, fod y llyfr yn ymweld â’r system atgenhedlu. Wrth reswm, felly, mae diagramau yn trafod gwaith yr organau pwysicaf ac yn defnyddio’r enwau gwyddonol cywir, ynghyd â thrafod y broses genhedlu mewn ffordd ffeithiol. Dwi’n credu’n gryf ei bod hi’n bwysig i blant gael y wybodaeth wyddonol gywir, er mwyn osgoi camddealltwriaeth neu gamsyniadau. Wedi dweud hyn, mater i rieni fydd penderfynu a ydynt yn teimlo bod y cynnwys yn addas. Os wyt ti erioed wedi gorwedd yn dy wely yn meddwl am gwestiynau mawr y bydysawd, mae’n eithaf posib y gwnei di ffeindio’r atebion yn y llyfr yma. Cwestiynau fel ydi snot yn saff i’w fwyta? Neu faint o dy fywyd wyt ti wedi ei dreulio’n eistedd ar y toiled? Gydag isadrannau difyr fel ‘Cwestiynau Kay’ a ‘Gwir neu Gaca,’ rydach chi’n siŵr o ddarganfod ateb i gwestiynau na wnaethoch chi erioed feddwl eu gofyn! Ar ôl llowcio Ti a Dy Gorff o glawr i glawr, dwi wedi dod i’r canlyniad fod y corff dynol yn beth rhyfedd ar y diawl. Ond dwi hefyd wedi sylweddoli ei fod o’n hollol wyrthiol a rhyfeddol, felly cofiwch ofalu am eich corff chi – dim ond un gewch chi! Mae digon o ganllawiau ar sut i edrych ar ôl eich corff yn y llyfr, gyda llaw! Os ydw i wedi llwyddo i’ch perswadio fod y llyfr yma’n osym, gwnewch ffafr â chi’ch hunain – bwydwch eich ymennydd drwy gael eich bachau ar gopi, a byddwch yn barod i fynd o dan groen y corff dynol – y peiriant mwyaf rhyfeddol fuodd ’na erioed!»

Morgan Dafydd @ www.gwales.com

Do you ever think about your body and how it works? The human body is extraordinary and fascinating and, well... pretty weird. Yours is weird, mine is weird, your maths teacher's is even weirder. This... Les mer

131,-
Paperback
Sendes innen 7 virkedager
Do you ever think about your body and how it works? The human body is extraordinary and fascinating and, well... pretty weird. Yours is weird, mine is weird, your maths teacher's is even weirder. This book is going to tell you what's actually gong on in there, and answer the really important questions like: Are bogeys safe to eat? How much time do you spend on the toilet?

Detaljer

Forlag
Rily Publications Ltd
Innbinding
Paperback
Språk
Walisisk
Sider
416
ISBN
9781804162934
Utgivelsesår
2023
Format
20 x 13 cm

Anmeldelser

«Ydach chi erioed wedi stopio i feddwl pa mor anhygoel ydi’r corff dynol? Mae o fel gorsaf bŵer, cyfrifiadur, peiriant a ffactori mewn un, ac yn gweithio’n hynod o effeithiol y rhan fwyaf o’r amser. A phan mae pethau’n mynd o’i le, mae ganddo hyd yn oed y gallu i drwsio ei hun! Waw. Cyn i’r rhieni neu’r athrawon gwyddoniaeth ddechrau cwyno nad yw cynnwys llyfr gan gomedïwr yn ddigon ‘gwyddonol,’ efallai y bydd yn syndod i chi gael gwybod fod yr awdur, Adam Kay, wedi bod yn ddoctor go iawn. Mi allwch chi ymddiried felly, ei fod o’n gwybod am be mae o’n sôn. Tydi hwn ddim fatha darllen yr hen werslyfrau llychlyd yn yr ysgol, achos mae steil y llyfr yn ysgafn a doniol. Er y dôn hwyliog, mae’n adnodd hynod o gynhwysfawr ac addysgiadol. Ar yr olwg gyntaf, edrycha fel llyfr swmpus dros ben, ond mae’r cynnwys yn hawdd i’w ddarllen. Mae lluniau cartŵn Henry Paker yn ychwanegu at yr hwyl ac yn torri’r testun yn ddarnau byrrach sy’n haws eu darllen. Wrth ein tywys o amgylch y corff dynol yn ei holl ogoniant, mae’r awdur yn drylwyr tu hwnt, gan holi nifer o arbenigwyr ar hyd y ffordd. Cawn ymweld â nifer o wahanol rannau o’r corff, gan gynnwys y prif organau, yr esgyrn, y cyhyrau a’r croen – gan enwi dim ond rhai. Mi wnes i wir fwynhau’r darnau sy’n trafod y system dreulio a thaith y bwyd holl ffordd o’r geg, nes iddo ddod allan o’r pen arall yn y rectwm (ia, dwi’n dilyn esiampl y llyfr ac yn defnyddio’r termau gwyddonol cywir). Nid pob llyfr sy’n gallu brolio’r ffaith fod ganddo ddarn cyfan i drafod pwps (neu ysgarthion, a bod yn hollol gywir)! Dwi’n siŵr y bydd sawl un yn mwynhau’r darn yma. Mae’n werth nodi, fel unrhyw lyfr gwerth ei halen sy’n trafod y corff, fod y llyfr yn ymweld â’r system atgenhedlu. Wrth reswm, felly, mae diagramau yn trafod gwaith yr organau pwysicaf ac yn defnyddio’r enwau gwyddonol cywir, ynghyd â thrafod y broses genhedlu mewn ffordd ffeithiol. Dwi’n credu’n gryf ei bod hi’n bwysig i blant gael y wybodaeth wyddonol gywir, er mwyn osgoi camddealltwriaeth neu gamsyniadau. Wedi dweud hyn, mater i rieni fydd penderfynu a ydynt yn teimlo bod y cynnwys yn addas. Os wyt ti erioed wedi gorwedd yn dy wely yn meddwl am gwestiynau mawr y bydysawd, mae’n eithaf posib y gwnei di ffeindio’r atebion yn y llyfr yma. Cwestiynau fel ydi snot yn saff i’w fwyta? Neu faint o dy fywyd wyt ti wedi ei dreulio’n eistedd ar y toiled? Gydag isadrannau difyr fel ‘Cwestiynau Kay’ a ‘Gwir neu Gaca,’ rydach chi’n siŵr o ddarganfod ateb i gwestiynau na wnaethoch chi erioed feddwl eu gofyn! Ar ôl llowcio Ti a Dy Gorff o glawr i glawr, dwi wedi dod i’r canlyniad fod y corff dynol yn beth rhyfedd ar y diawl. Ond dwi hefyd wedi sylweddoli ei fod o’n hollol wyrthiol a rhyfeddol, felly cofiwch ofalu am eich corff chi – dim ond un gewch chi! Mae digon o ganllawiau ar sut i edrych ar ôl eich corff yn y llyfr, gyda llaw! Os ydw i wedi llwyddo i’ch perswadio fod y llyfr yma’n osym, gwnewch ffafr â chi’ch hunain – bwydwch eich ymennydd drwy gael eich bachau ar gopi, a byddwch yn barod i fynd o dan groen y corff dynol – y peiriant mwyaf rhyfeddol fuodd ’na erioed!»

Morgan Dafydd @ www.gwales.com

Kunders vurdering

Oppdag mer

Bøker som ligner på Ti a dy Gorff:

Se flere

Logg inn

Ikke medlem ennå? Registrer deg her

Glemt medlemsnummer/passord?

Handlekurv