Mr Ffiaidd
«Druan â Mr Ffiaidd, y trempyn lleol. Mae e mor ddrewllyd nes ei fod e’n gwagio caffi o'i gwsmeriaid a'i staff o fewn ychydig eiliadau, ac mae'n rhaid i Alys anadlu drwy ei cheg pan mae yn ei gwmni. Ond mae Alys yn unig, yn cael ei bwlio yn yr ysgol ac yn cael ei hanwybyddu gan ei mam uchelgeisiol, ac o ganlyniad mae caredigrwydd a chyngor Mr Ffiaidd yn ei denu ato. Pwy yw e? A oes modd ei helpu? Ac a oes modd ei berswadio i gymryd bath?! Hiwmor a dychan yw prif nodweddion y nofel, wrth i David Walliams fwynhau’r elfen absýrd yn y stori. Ac mae yn ei mwynhau! Mae’n ymhyfrydu ym mhob arogl cas, pob ffolineb gan fam snobyddlyd Alys, ac yn ymddygiad anghyffredin Mr Ffiaidd. Ac mae’r sgrifennu yn cynnwys elfennau fydd yn apelio at rieni yn ogystal â phlant. Ond mae ’na neges fwy moesol yma hefyd. Mae caredigrwydd a chonsýrn Alys yn esgor ar gyfeillgarwch rhyngddi hi a Mr Ffiaidd, a hynny yn ei dro yn helpu Alys i fagu hyder ynddi hi ei hun. Wrth i ddigwyddiadau droi’n fwy fwy swreal mae’r trempyn drewllyd yn llwyddo i ddatgelu gwirioneddau a dysgu gwersi i bobl. A hynny heb golli’r chwerthin a'r anwyldeb sydd yn nodweddu'r nofel. I rywun o ’nghenhedlaeth i mae’n anodd peidio cymharu Mr Ffiaidd â nofelau Roald Dahl, yn enwedig gan mai Quentin Blake sy’n gyfrifol am y darluniau. Efallai nad yw’r un dyfnder yma bob tro ag sydd yn rhai o straeon Dahl ond mae Mr Ffiaidd yn hwyl, yn llawn syndod a chwerthin, ac yn stori dda y gall plant ddychwelyd ati dro ar ôl tro.»
Cerian Arianrhod @ www.gwales.com
In this book we meet Alys, a lonely and shy girl. One day she meets Mr Ffiaidd, the local tramp, and although he smells quite a bit, nobody has ever been as kind to her. In return, she decides to offer him a place to live in the shed at the bottom of her garden! Les mer
Detaljer
- Forlag
- Atebol
- Innbinding
- Paperback
- Språk
- Walisisk
- Sider
- 256
- ISBN
- 9781910574492
- Utgivelsesår
- 2016
- Format
- 22 x 14 cm
Anmeldelser