Min side Kundeservice Gavekort – en perfekt gave Registrer deg

Perfformio'r Genedl

Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards

«'Dyma gyfrol arloesol ac amheuthun sy'n cynnig cyfres o ymatebion ysgolheigaidd i waith Hywel Teifi Edwards, ac sy'n ehangu'r drafodaeth ar astudiaethau theatr a pherfformiad yn Gymraeg. Tra bod gwaith Edwards yn wybyddus iawn ym maes y Gymraeg, dyma'r llyfr cyflawn cyntaf i hawlio pwysigrwydd ac arwyddocad i'w waith i astudiaethau theatr a pherfformiad yn benodol.' - Dr Lisa Lewis, Prifysgol De Cymru»

Mae Perfformio'r Genedl yn gyfrol sy'n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i'r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i'r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o'i weithiau unigol. Les mer

134,-
Paperback
Sendes innen 21 dager
Mae Perfformio'r Genedl yn gyfrol sy'n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i'r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i'r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o'i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol - sef astudiaeth o'r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o'r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae'r gyfrol yn canoli ar themau amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau'r Orsedd, y drafodaeth o ddramau cynnar y mudiad drama, a'r dogfennu ar weithgaredd cwmniau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu'r amryw themau yn ei waith a'u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o'r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.

Detaljer

Forlag
University of Wales Press
Innbinding
Paperback
Språk
Walisisk
Sider
240
ISBN
9781786830340
Utgivelsesår
2017
Format
22 x 14 cm

Om forfatteren

Mae Anwen Jones yn bennaeth ar Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, ac yn Ddarllenydd mewn Astudiaethau Theatr.

Anmeldelser

«'Dyma gyfrol arloesol ac amheuthun sy'n cynnig cyfres o ymatebion ysgolheigaidd i waith Hywel Teifi Edwards, ac sy'n ehangu'r drafodaeth ar astudiaethau theatr a pherfformiad yn Gymraeg. Tra bod gwaith Edwards yn wybyddus iawn ym maes y Gymraeg, dyma'r llyfr cyflawn cyntaf i hawlio pwysigrwydd ac arwyddocad i'w waith i astudiaethau theatr a pherfformiad yn benodol.' - Dr Lisa Lewis, Prifysgol De Cymru»

Kunders vurdering

Oppdag mer

Bøker som ligner på Perfformio'r Genedl:

Se flere

Logg inn

Ikke medlem ennå? Registrer deg her

Glemt medlemsnummer/passord?

Handlekurv